GWEFAN DROS DRO YW HON

Cynllun Datblygu Lleol Newydd


Summary (optional)
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datblygu a defnyddio tir o fewn y Fwrdeistref Sirol (ar wahân i’r tir sy’n rhan o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri). Mae hefyd yn darparu’r cyd-destun ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio lleol. Fel yr awdurdod cynllunio lleol, ni sy’n gyfrifol am baratoi a diweddaru’r Cynllun Datblygu Lleol.
start content

NODWCH: Dim ond os ydych yn dymuno gwneud sylwadau mae’n rhaid i chi gofrestru/ logio i mewn..

Darpariaeth Safle Sipsiwn a Theithwyr yng Nghonwy

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Cyflwyniad

No Comments 1.1 Yn unol â gofynion Ddeddf Tai 2004 a Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig 30/2007 'Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafannau Sipsiwn a Theithwyr', gofynnir i bob awdurdod lleol yng Nghymru adnabod anghenion llety sipsiwn a theithwyr yn ei ardal a sicrhau darpariaeth ar gyfer unrhyw anghenion a chydnabuwyd. Yn ogystal, mae'r Mesur Tai (Cymru) a gafodd Gydsyniad Brenhinol a ddaeth yn ddeddf ar 17 Medi 2014, yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd lle mae angen wedi'i nodi.

No Comments 1.2 Cyhoeddwyd Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru yn 2013 ar ran sawl awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru ac adnabuwyd angen ar gyfer 3 o leiniau preswyl yng Nghonwy erbyn 2016 (disgwylir i hyn dyfu 3% bob blwyddyn hyd at 2021). Yn ogystal, adnabuwyd angen 'rhanbarthol' ar gyfer 7 o leiniau tramwy, gorau oll i'w lleoli'n agos at yr A55 a ffin Conwy / Sir Ddinbych. Gall y ddarpariaeth 'dramwy' yma fod ar ffurf lleiniau tramwy (ar gyfer arhosiad o hyd at 3 mis) neu arosfeydd dros dro (ar gyfer arhosiad o hyd at 28 diwrnod).

Gweld y Sylwadau (1) 1.3 Wrth gadw'r gofynion uchod mewn cof, mae CDLl Conwy yn cynnwys ymrwymiad gan y Cyngor i adnabod a cheisio caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd sy'n addas ar gyfer sipsiwn a theithwyr yn y Fwrdeistref Sirol, ac mae'n ymgorffori amserlen cyfyng ar gyfer y broses. I gyd-fynd â'r amserlen hon, ymgymerwyd â 'galwad am feysydd' cyhoeddus gan y Cyngor, a sefydlwyd Gweithgor Teithwyr yn 2013, ac o ganlyniad bu gwaith yn symud ymlaen ar adnabod ac asesu safleoedd. Mae'r gwaith wedi cynnwys ymgynghori ag amrywiaeth o adrannau Cyngor ac awdurdodau statudol ynghylch addasrwydd safleoedd o ran, er enghraifft, mynediad, argaeledd gwasanaethau ac effaith amgylcheddol. Yn bwysig, mae'r asesiad safle a gynhaliwyd yn unol a Pholisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru (Rhifyn 7 2014), Cylchlythyr 30/2007 'Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafannau Sipsiwn a Theithwyr' a Pholisi HOU/9 y Cynllun Datblygu Lleol, lle mae safleoedd tir llwyd yn ardal yr angen yn ddilyniannol orau a dylid rhoi blaenoriaeth iddynt o flaen safleoedd maes glas.

No Comments 1.4 O ganlyniad i'r broses hon mae'r Cyngor wedi llunio rhestr fer o safleoedd posib, ac ar hyn o bryd safle oddi ar hen Ffordd Bangor yng Nghonwy sydd wedi'i ffafrio ar gyfer safle preswyl o 3-4 o leiniau a'r hen gilfan Smithy oddi ar Ffordd Llanelwy ger Llansan Siôr a ffin Conwy Sir Ddinbych yw'r safle sy'n cael ei ffafrio ar hyn o bryd ar gyfer darpariaeth deithiol.

Gweld y Sylwadau (8) 1.5 Hen Ffordd Bangor, Conwy

Gweld y Sylwadau (37) 1.6 Gilfan Smithy, San Sior

Cael trafferth defnyddio'r system? Ewch i'n tudalen help neu gysylltu â'r Cyngor yn union.

Bwerwyd gan OpusConsult

Drag side panels here (optional)
end content

Dod o hyd i'ch ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cyngor agosaf a mwy